WELSH

Cefndir

Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd i Gymru er mwyn sbarduno mwy o ffocws a gweithgarwch wrth inni ymateb i’r heriau sy’n codi yn sgil yr argyfwng hinsawdd.

Mae gan Gymru darged sy’n ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050, ochr yn ochr ag uchelgais i’r sector cyhoeddus cyfan fod yn garbon sero net erbyn 2023.

 Yn 2018/19, amcangyfrifwyd mai 1,001,378 tCO2e oedd ôl troed carbon GIG Cymruac mae’r allyriadau iechyd hyn oddeutu 2.6% o gyfanswm allyriadau Cymru.

 Yn arolwg diweddar y panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, nodwyd bod:

  • 81% o bobl yn teimlo’n bryderus (40% ohonynt yn bryderus iawn) ynghylch y newid yn yr hinsawdd, a
  • 72% o bobl yn cytuno (21% ohonynt yn cytuno’n gryf) mai eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud rhywbeth ynghylch y newid yn yr hinsawdd.

Felly er mai Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithredu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd, gyda’r nod o hwyluso’r math o arweinyddiaeth a chydweithredu y mae eu hangen i gyrraedd sero net a chreu sector sy’n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd, rydym yn cydnabod mai holl staff GIG Cymru ar y cyd sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod newidiadau cynaliadwy yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus.

 Mae profiad a chreadigrwydd staff GIG Cymru, drwy’r dysgu a’r ymgysylltu sy’n digwydd rhwng cymheiriaid, yn gallu ysbrydoli a chymell pobl i weithredu’r gwelliannau cynaliadwy hanfodol y mae eu hangen ar y sector iechyd, a chyfrannu at uchelgais y sector cyhoeddus a thargedau newid hinsawdd ehangach Cymru.

 Rydym yn gofyn am eich cymorth:

Hyrwyddwch wybodaeth Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru isod, drwy rwydweithiau staff a sianeli cyfathrebu

 Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru

  • Mae ein cydweithwyr ymroddedig yn GIG Cymru wedi sefydlu a lansio Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru i hyrwyddo egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy a chefnogi’r ymgyrch i ymwreiddio arferion cynaliadwy mewn gofal clinigol.
  • Cynhelir Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru ar 13 Mehefin 2024 yng Ngwesty’r Vale, Caerdydd.
  • Y Gynhadledd – Fe’ch gwahoddir i ‘Arbed y Dyddiad’ ac ymuno â ni ar gyfer diwrnod lle bydd cyfle i fwynhau arddangosfeydd a gwrando ar anerchiadau pwysig gan ein siaradwyr, sy’n canolbwyntio ar ofal clinigol; y mannau lle mae problemau carbon yn eich gwasanaethau; a’r angen i sicrhau gwerth cynaliadwy.